
Rydyn ni bellach wedi cwblhau pob un o’n cyfweliadau, gan gynnwys y rhai â rhanddeiliaid (sef cyfanswm o 53 o gyfweliadau). Rydyn ni’n ddiolchgar i bob un a wnaeth roi o’i amser, diolch o waelod calon i chi. Bellach, rydyn ni wrthi’n dadansoddi'r rhain ochr yn ochr â chyfweliadau cynharach â’r rhai sy'n gymwys am sgrinio serfigol. Ar sail hyn, rydyn ni’n creu model rhesymegol, sy’n gynllun yn y bôn, ar gyfer sut y gellid cyfleu hunan-samplu i bobl a chefnogi penderfyniadau unigol pe bai hunan-samplu’n cael ei gynnig yn ddewis. Rydyn ni hefyd yn trefnu consortiwm ar-lein (cyfarfod) ar gyfer mis Mehefin 2024 i rannu ein canfyddiadau a thrafod y camau nesaf gyda rhanddeiliaid. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y consortiwm, e-bostiwch clarkee15@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddadansoddi ein data a rhannu’r canlyniadau pan fydd y rhain yn barod.
Rydym yn falch iawn bod pob un o’r 30 o gyfweliadau ag unigolion sy’n gymwys ar gyfer sgrinio serfigol wedi’u cwblhau a bod drafft cychwynnol o’r fframwaith dadansoddi wedi’i ddatblygu. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran mewn cyfweliad, rydym mor ddiolchgar am eich amser. Byddwn nawr yn brysur yn dadansoddi'r holl ddata cyfoethog hwn.
Bydd tîm prosiect SUCCEED yn rhannu’r astudiaeth:
Fel sgwrs yng
Fel poster academaidd: Yng Nghyfarfod Gwyddonol Blynyddol (ASM) y Gymdeithas Gofal Sylfaenol Academaidd (SAPC), 18-20 Gorffennaf 2023
Cadwch lygad ar y wefan am fwy o gyfleoedd i glywed am ein gwaith.