SUCCEED

CWRDD Â’R TÎM


Dr Denitza Williams

Prif Ymchwilydd

Denitza yw arweinydd y prosiect ymchwil hwn ac mae wedi sefydlu arbenigedd a phortffolio mewn ymchwil gwasanaethau iechyd a dulliau ymchwil ansoddol, gyda ffocws penodol ar iechyd menywod (£9 miliwn o gyllid grant ymchwil / 21 o gyhoeddiadau). Mae Denitza wedi arwain nifer o brosiectau dulliau cymysg yn y gorffennol gan gynnwys asesu anghenion, datblygu a gwerthuso ymyriadau gofal iechyd cydweithredol mewn lleoliadau clinigol (sgrinio serfigol, clefyd cronig yn yr arennau/canser y fron/clefyd gwynegol awto-imiwn, ffibrosis systig). Mae gan Denitza ddiddordeb arbennig mewn cefnogi dulliau teg o sgrinio canser serfigol trwy ddulliau newydd fel hunan-samplu feirws Papiloma Dynol. Mae’n cydweithio’n agos â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD).

Dr Elly Clarke

Cynorthwy-ydd Ymchwil SUCCEED

Mae Elly yn Gynorthwy-ydd ymchwil gydag astudiaeth SUCCEED a hi fydd yn cynnal y cyfweliadau. Mae hi'n arbenigo mewn ymchwil ansoddol ym maes iechyd, yn enwedig gyda grwpiau o bobl nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol.

Yr Athro Adrian Edwards

Cyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru

Mae'r Athro Adrian Edwards yn Athro Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd, Cymru, y DU. Ei brif ddiddordeb ymchwil yw gwneud penderfyniadau ar y cyd a chymhorthion penderfyniadau; mae’n Gyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru, Canolfan Cymru gyfan ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (gan gynnwys gwaith ymchwil heb ei drefnu), a Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Yr Athro Fiona Wood

Athro Cymdeithaseg Feddygol

Athro mewn Cymdeithaseg Feddygol yw Fiona ac mae'n cefnogi astudiaeth SUCCEED gyda chyngor ar ddulliau ansoddol mewn perthynas â chyfweliadau ag aelodau o'r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae gan Fiona hefyd brofiad o gydgynhyrchu ymyriadau i wella gofal iechyd. 

Yr Athro Kate Brain

Cadair Bersonol

Mae'r Athro Kate Brain yn seicolegydd iechyd ac yn arweinydd byd ym maes ymchwil ymddygiadol i ganfod canser yn gynnar. Mae ganddi brofiad helaeth o ddefnyddio fframweithiau ymyriadau cymhleth i wneud y gorau o ymddygiadau canfod canser yn gynnar a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau trwy atebion newydd yn y gymuned. Mae’n cyd-gadeirio gweithgor Ecwiti Iechyd Consortiwm Canfod Sawl Canser yn Gynnar yr Unol Daleithiau/y DU (Consortiwm MCED). Mae hi'n uwch-aelod o Bwyllgor Ymchwil Canfod a Diagnosis Cynnar Ymchwil Canser y DU ac mae'n cynghori GIG Lloegr ar raglen Archwiliad Iechyd yr Ysgyfaint wedi’i Dargedu.

Ers 2015, mae Kate wedi arwain cyfeiriad strategol ymchwil ym maes y gwyddorau ymddygiadol i ganser yng Nghymru, gyda chyllid seilwaith yn cynnwys Canolfan Ymchwil Canser Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys. Mae ei phortffolio ymchwil yn cynnwys astudiaethau rhyngwladol o ymwybyddiaeth canser, deall a mynd i'r afael â gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol o ran ceisio cymorth canser, sgrinio canser yr ysgyfaint a rhoi'r gorau i ysmygu ymhlith poblogaethau risg uchel, ac effaith y pandemig ar agweddau ac ymddygiad canser.

Mae gan Kate nifer o uwch rolau arwain, gan gynnwys Arweinydd Sgrinio, Atal a Diagnosis Cynnar yn Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth, Cyfarwyddwr Cyswllt thema Ymchwil Iechyd y Boblogaeth Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Prifysgol Caerdydd, ac Uwch-arweinydd Thema Arwain Strategaeth Ymchwil Canser Cymru ar gyfer atal canser yn seiliedig ar iechyd y boblogaeth a diagnosis cynnar.

Dr Kate Lifford

Cydymaith Ymchwil

Mae Kate yn cynnig arbenigedd mewn datblygu ymyriadau i wneud penderfyniadau ar y cyd ac yn cefnogi’r gwaith o gynnal y prosiect o ddydd i ddydd.

Mae llawer o waith ymchwil diweddar Kate wedi canolbwyntio ar wneud penderfyniadau ym maes rheoli risg canser, lleihau risg a thriniaeth. O berthnasedd arbennig i astudiaeth SUCCEED, mae gan Kate arbenigedd mewn datblygu a phrofi cymhorthion penderfyniadau cleifion, sy'n arfau i gefnogi penderfyniadau a rennir rhwng cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Dr Natalie Joseph-Williams

Uwch-ddarlithydd mewn Gwella Gofal Cleifion, Cyd-Arweinydd Academaidd ar gyfer Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Mae Natalie yn Uwch-ddarlithydd mewn Gwella Gofal Cleifion ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae ganddi hanes cryf mewn ymchwil i wneud penderfyniadau ar y cyd, cyhoeddi canfyddiadau sydd wedi llywio rhaglenni hyfforddi cenedlaethol, polisi gofal iechyd y GIG, a chanllawiau rhyngwladol.

Er mwyn sicrhau bod gwaith ymchwil yn cynnig manteision i gleifion, i glinigwyr ac i sefydliadau gofal iechyd, mae Natalie yn cydweithio'n agos â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cydweithrediaeth Gwneud Penderfyniadau NICE, a’r Cydweithrediad Safonau Rhyngwladol ar Gymhorthion Penderfyniadau Cleifion (IPDAS).

Dr Rhiannon Phillips

Darllenydd mewn Seicoleg Iechyd

Mae Dr Rhiannon Phillips yn Ddarllenydd mewn Seicoleg Iechyd ac yn Arweinydd Ymchwil ac Arloesedd Seicoleg Gymhwysol a Newid Ymddygiad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth ym meysydd iechyd atgenhedlol menywod a heintiau cyffredin, gan ddefnyddio dulliau cymysg a dulliau cydgynhyrchiol. 

CYNNWYS Y CYHOEDD

Mae tri phartner sy’n cydweithio â’r cyhoedd yn cynrychioli profiadau gwahanol o gymryd rhan mewn sgrinio serfigol ar gyfer y prosiect SUCCEED.  Maent wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddechrau'r gwaith ac maent yn rhan annatod o'r tîm ymchwil. 

Lindsay Haywood

Partner Cynnwys y Cyhoedd

“Rwy’n aelod o’r cyhoedd o Abertawe ac mae’n anrhydedd i fod yn rhan o’r grŵp rheoli ymchwil cyffrous hwn oherwydd, fel menyw sydd wedi colli sawl beichiogrwydd, rwy’n gwybod yr effaith y gall trawma ei chael ar fy ymwneud â gweithgareddau sgrinio, ac roeddwn un o'r merched hynny nad oedd eisiau cymryd rhan mewn sgrinio oherwydd fy ngholledion a'r trawma a achoswyd ganddynt.  Dyna pam y cymerais ran i ddechrau ac rwyf wedi gallu cyfrannu at ddatblygiad a darpariaeth barhaus y gwaith ymchwil, ac rwy'n edrych ymlaen at y canlyniadau.  Mae mor bwysig cael aelodau o’r cyhoedd ar bob cam o’r gwaith ymchwil i sicrhau ein bod yn gweithio fel partneriaid cyfartal ac yn cyd-ddylunio gwaith ymchwil sy’n cael effaith.”   

Sally Killian

Partner Cynnwys y Cyhoedd

Rwy’n fenyw yn fy 50au ac yn gweithio yn y GIG fel Rheolwr Cyllid. Fe wnes i gymryd rhan gan fy mod i’n credu’n gryf mewn unrhyw beth sy’n gwneud gofal iechyd/sgrinio’n haws cael gafael arno ac rwy’n teimlo’n gryf am gynrychiolaeth LHDTC+.” 

Caroline Evans

Partner Cynnwys y Cyhoedd

“Mae gen i gefndir mewn Cemeg gyda PhD mewn Cemeg Organig ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio yn y sector addysg. Mae gennyf ddiddordeb cyffredinol yn y maes hwn ac rwy’n awyddus i gymryd rhan.” 

CYDWEITHWYR


Sgrinio Serfigol Cymru

Cydweithiwr

Dr Jo Waller

Cydweithiwr

Mae gwaith ymchwil Jo yn canolbwyntio ar agweddau seicolegol ac ymddygiadol atal canser, sgrinio a rhoi diagnosis cynnar. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn atal canser serfigol, ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar rwystrau i gael eich sgrinio, effaith seicolegol profion HPV, ac agweddau at frechu HPV. Mae Jo yn aelod o'r Pwyllgorau Ymgynghorol ar gyfer rhaglenni Sgrinio'r Fron a Serfigol y GIG

Yr Athro Andrew Carson-Stevens

Cydweithiwr

Athro Diogelwch Cleifion a Gwella Ansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd yw Andrew. Mae'n feddyg teulu sy’n dod â’i arbenigedd clinigol i'r astudiaeth SUCCEED, yn ogystal â sgiliau o fri rhyngwladol yn ymchwilydd gwasanaethau iechyd sy’n ymchwilio i bryderon o ran diogelwch cleifion. Mae Andrew yn gweithio'n rhagweithiol er mwyn hwyluso arloesedd ym maes gofal iechyd at ddibenion gwella diogelwch cleifion yn fyd-eang, a hynny trwy waith amlddisgyblaethol ar sail tystiolaeth. Mae'n cyflawni hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys fel:

  • Sylfaenydd a chynullydd y gweithgorau rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd (PISA a WESPA), sy’n cynnwys yn eu plith ymchwilwyr a chlinigwyr sy'n ymchwilio ac yn gwerthuso gwasanaethau gofal iechyd er mwyn hwyluso arloesedd a rhoi arferion ar waith at ddibenion gwella diogelwch cleifion.

  •  Arweinydd Ymchwil Arbenigol ym maes Gofal Sylfaenol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

  • Arweinydd y Pecyn Gwaith ar Ddiogelwch Cleifion i Ganolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys.

  • Ymgynghorydd Gwyddonol ar gyfer rhaglen Addysg GIG yr Alban, sef 'Ymchwil Diogelwch Cleifion a Gwella Ansawdd a Datblygu Addysgol', ac aelod o'r Grŵp Cyfeirio Gofal Sylfaenol ar gyfer y rhaglen genomeg Ein Hiechyd yn y Dyfodol.

  • Mae hefyd yn Gynghorydd hirsefydlog ar ddiogelwch cleifion i Sefydliad Iechyd y Byd, ac yn ymgynghorydd methodolegol i’r gweithgor OECD sy’n ymdrin â Chanlyniadau Diogelwch a Adroddir gan Gleifion

Ymddiriedolaeth Canser serfigol Jo

Cydweithiwr