SUCCEED

BETH YDYM NI'N GOBEITHIO EI DDARGANFOD


Byddwn yn dadansoddi'r trafodaethau a gawn gyda phobl sy'n gymwys ar gyfer sgrinio serfigol a'r rhai sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth sgrinio serfigol i ddarganfod:
  • Beth fyddai pobl eisiau ei wybod am hunan-samplu.
  • Sut y byddai pobl am gael gwybod am newid posibl yn y rhaglen sgrinio serfigol i gynnwys hunan-samplu.
  • Y ffordd orau o gefnogi pobl i wneud penderfyniad ynghylch pa fath o samplu fyddai fwyaf addas i'w hanghenion a'u dewisiadau.
  • Beth sy'n gyfnewidiol a/neu'n gyraeddadwy yn ymarferol os daw dewis o ddull samplu i mewn i'r rhaglenni sgrinio serfigol.

Gan weithio gyda phartneriaid cleifion a rhanddeiliaid byddwn yn:
  • Gwneud argymhellion ynghylch y ffordd orau o gyfleu newid yn y rhaglen sgrinio.
  • Creu model damcaniaethol ar gyfer y ffordd orau o gefnogi pobl gyda dewis o ran dull samplu.  
  • Gwneud argymhellion ar gyfer datblygu cymorth i gefnogi pobl i wneud penderfyniad am y dull samplu gorau ar eu cyfer.