Yn y DU, mae sgrinio
serfigol yn cael ei gynnig ar hyn o bryd i unigolion sy'n gymwys
ar gyfer sgrinio serfigol rhwng 25 a 64 oed fel rhan o raglenni sgrinio canser
y GIG.
Yn y dyfodol, gallai fod dewis o sut i gynnal y prawf sgrinio serfigol:
Gallai gweithiwr
gofal iechyd proffesiynol gymryd sampl mewn clinig (fel y mae ar hyn o bryd).
NEU
Gallai'r unigolyn
ei hun gasglu'r sampl (hunan-samplu y gellir ei wneud gartref, er enghraifft).
“Mae’n bwysig
parhau i fynd i’ch apwyntiad sgrinio serfigol pan gewch wahoddiad gan y rhaglen
sgrinio serfigol. Nid yw hunan-samplu ar gael fel rhan o raglenni sgrinio
serfigol y DU ac nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto ynghylch a fydd
ar gael yn y dyfodol.”