Croeso i wefan
ein prosiect. Dros y flwyddyn a hanner nesaf, byddwn yn casglu barn a
phrofiadau pobl sy'n gymwys ar gyfer sgrinio serfigol (a elwir fel arall yn
brawf ceg y groth) a phobl sy'n ymwneud â sgrinio serfigol. Bydd y wybodaeth
hon yn cael ei defnyddio i helpu pobl yn y dyfodol, os daw opsiwn ar gyfer
cymryd hunan-sampl sgrinio serfigol, i wneud y dewis cywir ar eu cyfer.
Bydd y wybodaeth
a gasglwn o'r prosiect hwn yn cael ei defnyddio i ddatblygu adnodd cefnogi
penderfyniadau er mwyn helpu pobl i wneud dewis sy'n cyd-fynd orau â'u
hanghenion a'u dewisiadau eu hunain os ydynt yn cael cynnig dewis o ddull
sgrinio serfigol.